Ddiwrnod ar ôl i ddeiseb yn gwrthwynebu ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru fynd y tu hwnt i 25,000 o lofnodion, mae colofnydd y Sunday Times wedi lladd ar y Gymraeg yn ei golofn wythnosol yn y Sunday Times.

Mae’r golofn gan Rod Liddle yn ymateb i ffrae Ail Bont Hafren, sy’n cael ei hailenwi’n Bont Tywysog Cymru.

Yn y golofn, mae’n dweud bod y bont yn “cysylltu eu cymoedd glawiog gyda’r Byd Cyntaf”.

Wrth gyfeirio at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae’n dweud bod y rhai sy’n gwrthwynebu’r enw newydd yn cael eu harwain gan “y fenyw honno o Blaid Cymru sydd ar Question Time o hyd”.

‘Rhywbeth annealladwy’

Ac yna mae ei ymosodiad uniongyrchol ar y Gymraeg yn dechrau, wrth iddo ddweud y byddai’r Cymry’n hoffi enwi’r bont yn “rhwybeth annealladwy heb lefariaid go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy”.

Ond mae’n ‘ildio’ wedyn gan alw ar i’r Cymry “gael eu ffordd eu hunain”, cyn ychwanegu “cyhyd ag y bo’n galluogi pobol i fynd o’r lle ar unwaith, a ddylen ni boeni beth mae’n cael ei galw?”

Ymateb

Mae colofn Rod Liddle wedi ennyn ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter, gydag Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams ymhlith y rhai sydd wedi lleisio’u barn.