Mae Plaid Cymru heno’n anfon llythyr at bob un o’i haelodau er mwyn ceisio egluro pam fod y berthynas rhwng Aelod Cynulliad Canol De Cymru a gweddill yr Aelodau ym Mae Caerdydd, wedi torri i lawr yn llwyr.

Mae gan golwg360 gopi o’r llythyr, sy’n cael ei anfon yn enw’r grŵp o Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd yn unfrydol ddydd Mawrth i ddiarddel eu cydweithiwr, er mwyn rhoi “eglurhad mor gyflawn â phosib pam wnaethpwyd” y penderfyniad hwnnw.

Fe ddaw wedi i Neil McEvoy ei hun gynnal cynhadledd i’r wasg ben bore Gwener (Rhagfyr 19), ac wedi i lythyrau yn cwyno amdano – un ohonyn nhw gan y cyn-Aelod Cynulliad, Nerys Evans – gael eu rhyddhau i’r wasg a’r cyfryngau.

Mae cynnwys llythyr Plaid Cymru yn rhannu dan bedwar pennawd sy’n cyfeirio at ymddygiad Neil McEvoy tuag at, ac oddi fewn, grŵp y blaid yn y Senedd:

  • “Anwireddau cyhoeddus am resymau dros ei waharddiad o’r Grŵp”
  • “Sylwadau camarweiniol am ei berthynas gyda’r Grŵp”
  • “Honiadau am gynllwyn mewn cysylltiad â sefydliadau allanol”
  • “Ymchwiliadau’r Blaid i Neil McEvoy”

Mae Neil McEvoy wedi siarad â golwg360 heno, ac mae’n gwadu pob cyhuddiad yn y llythyr.

Y tro cyntaf

Yn ôl y grŵp, cafodd Neil McEvoy ei wahardd yn gyntaf yn dilyn tribiwnlys annibynnol (ym mis Mawrth 2017) a’i cafodd yn euog o fwlio aelod o staff Cyngor Caerdydd.

Pan gafodd ei aildderbyn i’r grŵp, fe wnaeth Neil McEvoy a phob Aelod arall gytuno i arwyddo cod ymddygiad, “gan ymrwymo i weithio’n gadarnhaol o fewn y Grŵp a pharchu aelodau eraill ar bob achlysur”.

Ond dywed y llythyr fod Neil McEvoy wedi cael ei wahardd eto ym mis Medi 2017, a hynny am “fethu â chadw at sawl cymal o’r Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog y Grŵp”.

“Ers i’r penderfyniad hwn gael ei wneud, mae Neil McEvoy wedi parhau i danseilio ein gwaith a dangos nad yw e’n barod i weithio’n gadarnhaol gyda’r Grŵp,” meddai’r llythyr.

“Mae wedi gwneud datganiadau anghywir am y rhesymau dros ei ataliad, gan honni fod hyn oherwydd iddo anghytuno â pholisi’r Blaid, ar ôl iddo gael gwybod ei fod yn gysylltiedig ag ymddwyn yn groes i’r Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog.

“Mae Neil McEvoy wedi mynd mor bell ag awgrymu bod y Grŵp yn euog o ddifenwi, pan maen nhw’n adrodd y ffeithiau am ei ataliad.”

Diffinio ymddygiad “annerbyniol”

Mae’r llythyr hefyd yn dweud bod gan y grŵp dystiolaeth o ymddygiad Neil McEvoy tuag at Aelodau Cynulliad eraill a’u staff “y byddai unrhyw berson rhesymol yn ystyried yn annerbyniol”.

Mae’r llythyr yn rhestru’r canlynol:

· Defnyddio “iaith ddig a bygythiol” gyda chydweithwyr;

· Gwneud “cwynion afresymol parhaus” am broses ei waharddiad a materion eraill;

· Gwneud” ceisiadau parhaus am wybodaeth” gan Aelodau Plaid Cymru unigol sydd wedi “dargyfeirio amser ac adnoddau gwerthfawr”;

· Gwneud “datganiadau cyhoeddus amharchus” am bolisi ac aelodau’r blaid;

· “Tanseilio digwyddiadau a swyddogion” y blaid;

· “Gwrthod derbyn y cyfrifoldeb cyfunol” sydd wedi ei gytuno gan y Grŵp.

Perthynas wedi torri i lawr

Dywed y llythyr hefyd fod yr “ymddygiad hwn wedi ei ailadrodd dro ar ôl tro ers etholiad 2016, er gwaethaf ymdrechion gan sawl aelod o’r Grŵp i ddwyn perswâd ar Neil i ymwneud mewn ffordd fwy cadarnhaol ac adeiladu pontydd”.

“Mae’r effaith andwyol mae hyn wedi ei chael ar Aelodau a staff wedi bod yn sylweddol,” meddai’r llythyr wedyn, “ac wedi tynnu sylw o’r mater mwyaf pwysig sydd wrth law, sef brwydro dros ddyfodol ein cenedl.

“… Mae Neil wedi rhoi argraff anghywir o’r sefyllfa trwy honni’n gyhoeddus fod ganddo berthynas dda ag Aelodau Cynulliad Plaid Cymru a’i fod yn gobeithio dychwelyd i’r Grŵp.

“Mewn gwirionedd, mae methiant llwyr nawr mewn ymddiriedaeth rhwng Neil McEvoy a’r Grŵp o ganlyniad i’w ymddygiad.

“Roedd ymddygiad Neil McEvoy yn aml yn gwneud i gydweithwyr deimlo wedi’u tanseilio ac weithiau’n ofidus, gyda rhai cyfathrebiadau â thôn fygythiol.”

“Dim dylanwad gan Deryn”

Dywed y grŵp mai “penderfyniad y grŵp yn unig” oedd diarddel Neil McEvoy, ac nad oedd cais bwriadol i’w danseilio gan y cwmni lobïo, Deryn.

“Siaradwn yn ddiffuant gan ddweud rydym oll wedi ein heffeithio gan y materion parhaus hyn a gofynnwn am eich dealltwriaeth fod budd y blaid, ei haelodau, a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu wrth galon y penderfyniad hwn,” meddai paragraff clo y llythyr.

Mae ymchwiliad Plaid Cymru yn ganolog, nid gan y grŵp yn y Cynulliad, i honiadau yn erbyn Neil McEvoy yn parhau.

Ymateb Neil McEvoy

“Yn union fel yr holl broses, mae’r [llythyr] yn llawn honiadau, ond mae diffyg manylion ynddo,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360.

“Mae aelodau Plaid Cymru a’r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu llawer gwell.

“Yng Nghaerdydd, mae’r blaid yn ffynnu. Mae sedd Gorllewin Caerdydd yn un ymylol rhwng Plaid Cymru a Llafur, ond maen nhw’n ymosod arna’ i tra bod yr Aelod Cynulliad Llafur yn cael ei ganmol gan arweinyddiaeth Plaid Cymru.

“Allech chi ddim gwneud hyn lan,” meddai wedyn. “Mae’r dicter gan aelodau a chefnogwyr Plaid Cymru ar y gwefannau cymdeithasol yno i bawb ei weld. Wedi deg mis o dawelwch llethol, r’yn ni i gyd eisie atebion.”