Mae Neil McEvoy wedi datgelu heddiw bod cyn-Aelod Cynulliad o Blaid Cymru, Nerys Evans, ymysg y rhai fu’n cwyno i’r blaid amdano.

Yn ôl Nerys Evans bu Neil McEvoy yn ei bwlio ac yn rhegi a gweiddi arni yn 2011, tra’r oedd hi’n trefnu ymgyrch etholiadol Plaid Cymru.

Ond mae Neil McEvoy yn gwadu’r honiadau ac wedi dweud wrth golwg360 iddo dderbyn cannoedd o negeseuon yn ei gefnogi.

Ym mis Mawrth 2017 fe wnaeth Nerys Evans gwyno trwy lythyr Saesneg at Gadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, a dweud bod Neil McEvoy wedi gwneud iddi deimlo “dan fygythiad.”

Neil McEvoy ei hun sydd wedi rhyddhau llythyr o gŵyn Nerys Evans i golwg360 heddiw – cyn hynny ni fu yn hysbys pwy fu’n cwyno amdano.

Dywedodd Nerys Evans yn ei llythyr: “Digwyddodd y rhan fwyaf o’r ymosodiadau arnaf i pan oeddwn i’n feichiog a dw i ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd.

“Mae gorfod delio gyda’r materion hyn a rhannu fy mhryderon yn ofidus ac yn annifyr.”

Cwynion “wedi’u trefnu” yn erbyn McEvoy

Yn ôl Neil McEvoy, sydd wedi ei ddiarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad, mae’r cwynion yn ei erbyn wedi’u trefnu, a’r rhan fwyaf wedi’u cysylltu â’r cwmni lobïo Deryn – lle mae Nerys Evans yn gyfarwyddwr.

Bu Cathy Owens, cyn-ymgynghorydd â Llywodraeth Lafur Cymru, sydd hefyd yn gyfarwyddwr gyda Deryn, hefyd yn cwyno amdano am ei “bwlio â’i haflonyddu”.

Dywed Neil McEvoy bod y cwynion wedi codi am ei fod wedi herio Deryn am y ffordd maen nhw’n dylanwadu ar wleidyddiaeth Bae Caerdydd. Cododd llawer o’r cwynion hefyd ar ôl i’r gwleidydd ei gael yn euog o fwlio aelod o staff ar Gyngor Caerdydd.

Ym mis Chwefror y llynedd, roedd Neil McEvoy wedi canfod bod Deryn wedi ennill contract gyda’r rheoleiddiwr cyfryngau, Ofcom, heb broses dendro gystadleuol.

Roedd wedi amlygu’r ffaith fod Nerys Evans yn eistedd ar fwrdd ymgynghorol Ofcom dros Gymru. Fe wnaeth y rheoleiddiwr ddod â’r contract i ben ar ôl cyfaddef nad oedd y broses dendro “yn gyson â phrosesau Ofcom”.

“Mae gennym ni gwmni lobïo, Deryn, sydd wedi fy nghyhuddo o aflonyddu am graffu ar eu gwaith yn llwyddiannus,” meddai Neil McEvoy.

Yn ei llythyr yn cwyno at Alun Ffred Jones, mae Nerys Evans yn dweud bod Neil McEvoy “wedi ceisio tanseilio a niweidio fy enw da, ac enw da fy nghwmni, Deryn, gydag ymgyrch o fwlio”.

“Lle mae Deryn yn gorffen a Phlaid yn dechrau”

Mewn cynhadledd i’r Wasg y bore yma, awgrymodd Neil McEvoy  fod y berthynas rhwng Plaid Cymru a Deryn yn rhy glos.

“Mae’n glir o’r gŵyn nad yw Nerys Evans yn gwybod lle mae Deryn yn gorffen a lle mae Plaid yn dechrau.

“Mae hi’n mynd mor bell â gofyn bod Deryn yn cael gweld unrhyw straeon amdanyn nhw o flaen llaw. Byddai’n ddigynsail i gwmni lobïo edrych ar allbwn plaid wleidyddol pan fo eu haelodau etholedig yn ymchwilio i arferion lobïo…

“Does dim rheswm i aelod etholedig ddefnyddio prosesau plaid pan fo yna bryder dros arferion cwmni lobïo.

“Pan fo [Nerys Evans] yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Deryn dylai fod yna wahaniaeth clir rhwng unrhyw weithgaredd y mae hi’n gwneud gyda Phlaid Cymru.”

Mae’r cwynion yn erbyn Neil McEvoy, a ddaeth i law Plaid Cymru, bellach wedi cael eu trosglwyddo i  Gomisiynydd Safonau Cymru, Syr Roderick Evans, ac roedd wedi gallu eu gweld drwy fynnu Cais Gwrthrych Gwybodaeth [Subject Access Request].

Ymateb gan Deryn 

Fe ddaeth datganiad gan Huw Roberts, Cadeirydd Deryn, yn ymateb i Neil McEvoy:

“Rydym yn falch iawn o’r gwaith yr ydym yn ei wneud a’r tim rydym wedi ei adeiladu yma. Mae genmym record gref ar ymgyrchu yn erbyn aflonyddu a chamdrin menywod, yn enwedig menywod ym mywyd cyhoeddus.

“Mae heddiw wedi dangos bod gennym ffordd bell iawn i fynd yma yng Nghymru, ac y bydd hi’n anoddach nawr i fenywod fod yn hyderus wrth godi materion o’r fath.

“Edrychwn ymlaen at weld pa gamau bydd Leanne Wood yn eu rhoi ar waith i sicrhau ymagwedd newydd, a pha ymdrechion a wneir i leihau y lefel o gamdriniaeth gan aelodau’r blaid.”