Dafydd Du a Caryl Parry Jones fydd prif gyflwynwyr tonfedd radio newydd Radio Cymru 2 o ddiwedd mis Ionawr.

Fe gyhoeddwyd fis diwethaf y bydd yr ail orsaf yn dechrau darlledu’n fyw am ddwyawr bob bore, saith diwrnod yr wythnos, gan ddechrau ddydd Llun, Ionawr 29, 2018.

Dyma’r amserlen newydd, gyda phump o gyflwynwyr ddim mor newydd â hynny:

Dafydd a Caryl, dydd Llun i ddydd Iau, 6.30yb i 8.30yb, rhaglen sy’n cael ei disgrifio gan y BBC fel un a fydd yn eich deffro gyda “llond lle o straeon, cyfarchion, cwmnïaeth a’r cyfle i ganu fflatowt i’r gerddoriaeth orau”.

Huw Stephens fydd yn cyflwyno bob bore Gwener rhwng 6.30yb a 8.30yb, gan addo “tiwns yn barod i’w troelli ar gyfer dechrau llawn hwyl a  cherddoriaeth”.

Lisa Angharad fydd cyflwynydd bore Sadwrn, rhwng 7 a 9, gyda’r rhybudd i chi “ddisgwyl yr annisgwyl”.

Lisa Gwilym fydd yn cyflwyno slot bore Sul rhwng 8 a 10, gan eich annog i fwynhau “aros yn y gwely am ychydig yn hirach”, neu ymlacio ar y soffa “ar ôl wythnos brysur” yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Fe fydd Radio Cymru 2 ar gael ar lwyfannau digidol gan gynnwys DAB, bbc.co.uk/radiocymru, BBC iPlayer, bbc.co.uk/radiocymru2, ac ar deledu.

Fydd yna ddim newid i amserlen Radio Cymru ar FM.