Fe fydd BBC Radio Cymru 2 yn cael darlledu o flwyddyn nesaf ymlaen, yn ôl BBC Cymru.

Fe fydd rhaglen gyntaf yr orsaf radio Cymraeg newydd yn cael ei darlledu’n fyw am y tro cyntaf ddydd Llun, 29 Ionawr, ac yn dilyn hynny fe fydd y sioe frecwast ar yr awyr am saith bob bore’r wythnos ar DAB, BBC iPlayer a theledu.

Yn ôl Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru, fe fydd yr orsaf newydd yn “dathlu’r ffaith nad yw pob gwrandäwr yn gwirioni ʼrun fath”, ac wrth ddisgrifio’r sioe frecwast fel un “hwyliog, llawn cerddoriaeth, cwmni a chwerthin”, mae’n mynnu y bydd y rheiny sydd ddim eisiau hynny yn dal i fedru mwynhau’r rhaglenni newyddion arferol ar Radio Cymru.

Ac wrth gyfeirio at y cyflwynwyr newydd, dywedodd y “bydd ambell lais yn gyfarwydd iawn, ambell un yn llai cyfarwydd ac ambell lais yn trio rhywbeth newydd …”

“A nod pawb fydd eich darbwyllo chi i droi bob bore at griw Radio Cymru 2 dros frecwast.”

Er hyn, nid yw BBC Cymru wedi cyhoeddi eto pwy fydd cyflwynwyr newydd yr orsaf.

“Arloesi ac arbrofi”

Mewn araith yng Nghanolfan Pontio ym Mangor nos Lun (27 Tachwedd), dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, fod Radio Cymru 2 yn rhan o’r ehangu sy’n digwydd i wasanaethau Cymraeg, a hynny er mwyn ymateb i anghenion cynulleidfa sy’n newid yn gyson.

Cyfeiriodd at boblogrwydd y wefan BBC Cymru Fyw, BBC iPlayer a chyfres S4C, Hansh, fel enghreifftiau o’r modd y mae’r dulliau o gyrraedd cynulleidfaoedd wedi newid yn yr oes ddigidol.

“Dyma gyfnod o arloesi ac arbrofi, wedi ei danio gan gynulleidfaoedd sy’n newid yn ogystal â chwyldro technolegol”, meddai.

“Mae’r newidiadau yn digwydd ar gyflymdra anhygoel, ac mae’n rhaid i ni fynd ymhellach. Y nod yw sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn cyrraedd pob cornel o’r dirwedd gyfryngol newydd – yr iaith ar daith.”