Enghraifft arall o Gymru yn cael ei “hanwybyddu” gan y sefydliad Prydeinig yw absenoldeb Hedd Wyn o gasgliad stampiau Rhyfel Byd Cyntaf, meddai un o lofnodwyr llythyr agored at y Post Brenhinol – llythyr sydd yn galw arnyn nhw i fynd ati “ar frys” i’w gynnwys.

“Mae’n enghraifft bellach eto o Brydeindod yn golygu Seisnigrwydd,” meddai Myrddin ap Dafydd, prifardd a golygydd, wrth golwg360.

“Mae’r enwogion maen nhw’n dewis eu coffáu ar ein harian papur, ac ar ein stampiau – yn gyffredinol maen nhw’n anwybyddu pob diwylliant arall heblaw’r diwylliant Seisnig.”

“Er ein bod nhw’n honni ein bod ni’n Deyrnas Gyfunol, dydi hynny ddim yn cael ei amlygu, hyd yn oed mewn pethau bach fatha stampiau ac arian papur. Ac, yn sicr, nid mewn pethau llawer iawn pwysicach.”

Y llythyr

Mae’r llythyr – sy’n cael ei gyhoeddi yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg – yn nodi bod cynrychioli’r bardd yn “hollbwysig” ac yn honni bod y Post Brenhinol wedi penderfynu “gwrthod” ei gynnwys.

“Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gresynu at benderfyniad y Post Brenhinol i wrthod cyhoeddi stamp sy’n coffáu’r bardd-filwr Hedd Wyn,” meddai’r llythyr.

“Galwn ar Moya Greene, Prif Swyddog Gweithredol y Post Brenhinol, i ailystyried a hynny ar frys.”

Y llofnodwyr

Myrddin ap Dafydd, Catrin Dafydd, Jason Walford Davies, Sonia Edwards, Siôn Eirian, Endaf Emlyn, Annes Glyn, Gwyn Griffiths, Hywel Griffiths, Bleddyn Owen Huws, Dafydd Huws, Martin Huws.

Christine James, E Wyn James, Aled Llion Jones, Alwyn Harding Jones, Cyril Jones, John Gruffydd Jones, Aneirin Karadog, Jim Parc Nest, Manon Rhys, Geraint Lloyd Owen, Dr Cen Williams, Gerwyn Wiliams.

Harri Parry, Angharad Price, William Owen Roberts, Dr Francesca Rhydderch, Eurig Salisbury, Michael Sheen, Cathryn Charnell-White, Gruffydd Aled Williams a Manon Wyn Williams.

Stampiau

Mae’r bardd Gwyddelig, Francis Ledwidge, a fu farw’r un diwrnod a Hedd Wyn, eisoes wedi ymddangos ar gyfres o stampiau yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Er i fardd y gadair ddu gael ei esgeuluso o’r casgliad, mae’r milwr o Geredigion, Lemuel Thomas Rees, wedi ei goffáu ar ffurf delwedd o Feibl.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r Post Brenhinol am ymateb.