Beibl Lemuel Thomas Rees ar y stamp (Llun: Y Post Brenhinol)
Fe fydd Beibl, wnaeth achub bywyd milwr o Gymru, ymysg un o’r delweddau fydd yn ymddangos ar set ddiweddaraf o stampiau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyma’r bedwaredd set mewn cyfres o stampiau fydd yn cael eu cynhyrchu gan y Post Brenhinol er mwyn coffáu pob blwyddyn o’r Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1914 ac 1918.

Beibl Cymro

Un ddelwedd drawiadol fydd yn ymddangos ar y stampiau fydd llun o Feibl y milwr Lemuel Thomas Rees, oedd yn hanu o Flaenannerch yng Ngheredigion.

Wrth ymladd ym Mrwydr Passchendaele glaniodd ffrwydryn mewn ffos a ffrwydro ger Lemuel Thomas Rees, ond yn ffodus iddo mi wnaeth y Beibl ym mhoced ei frest achub ei fywyd.

Mae nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yng Ngwlad Belg i gofio am Frwydr Passchendaele, a ddechreuodd union ganrif yn ôl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw degau o filoedd o bobol o wledydd Prydain, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn, yn y frwydr.

Bydd y llun o Feibl Lemuel Thomas Rees yn ymddangos ochr yn ochr â delweddau eraill gan gynnwys nyrsys wnaeth sefydlu safle cymorth cyntaf yng Ngwlad Belg, a phabi wedi’i chwalu.

“Cyfraniad ac aberth”

“Bu farw miliynau o bobol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a chafodd trywydd hanes a dyfodol cenedlaethau o bobol eu newid a’u heffeithio,” meddai Philip Parker o’r Post Brenhinol.

“Rydym yn falch i gyflwyno’r pedwerydd casgliad o’n cyfres goffaol sydd yn nodi cyfraniad ac aberth y rhai fu’n brwydro.”

Bydd y stampiau ar werth o ddydd Llun ymlaen mewn 7,000 o swyddfeydd post ar draws y Deyrnas Unedig.