Yn ystod diweddariad dyddiol Llywodraeth Cymru i’r wasg, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai “cyfraith Cymru sydd mewn grym” yng Nghymru.
Er bod Prif Weinidog Cymru “ddim yn credu eu bod nhw wedi cael pethau’n iawn dros y ffin” ac yn pryderu y gall y gwahaniaethau yn y negeseuon yng Nghymru a Lloegr “ddrysu pobol”, dywedodd ei fod yn ffyddiog fod y dewisiadau iawn wedi eu gwneud gan Lywodraeth Cymru.
Galw am elgurder pan yn siarad am Loegr yn unig
Mae Prif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gofyn i Boris Johnson fod yn glir pan yn siarad ar ran y DU a phan yn siarad ar ran Lloegr yn unig.
Dywedodd Mark Drakeford: “Fy marn i yw y gellir bod wedi gwneud mwy yn yr araith.”
“Byddai wedi bod o gymorth i bob un ohonom pe bai mwy o bwyslais a mwy o eglurder pan roedd y Prif Weinidog yn siarad am ei gyfrifoldebau ledled y DU a phan oedd yn gwneud cyhoeddiadau a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig.
Cydymdeimlo â phobol yn Lloegr
Yn dilyn cyhoeddiad Boris Johnson y bydd pobol yn Lloegr yn gallu teithio er mwyn cadw’n iach dywedodd Mark Drakeford nad oes gan bobol yn Lloegr yr hawl i deithio i Gymru i gadw’n heini.
Er hyn dywedodd na fydd pobol sydd yn teithio i Gymru o Loegr yn cael eu dirwyo ar unwaith, a’i fod yn cydymdeimlo a phobol sydd ddim yn deall rheolau gwahanol y ddwy wlad.
“Rwy’n cydymdeimlo gyda phobl sydd heb gael y neges oherwydd sut gafodd y rheolau eu cyhoeddi ddoe.
“Ond os na fydd pobl yn ymddwyn fel y dylen nhw ar ôl hynny, bydd rhaid cosbi.”
Ychwanegodd Mark Drakeford: “Rwyf am fod yn eglur – yng Nghymru, cyfraith Cymru sydd mewn grym.”
“Byddwn yn defnyddio pob cam posib i ategu’r neges yma, gan gynnwys arwyddion ar briffyrdd a thraffyrdd ac erthyglau mewn papurau newydd ar draws y ffin.”
Llacio’r cyfyngiadau yng Nghymru pan yn “ddiogel”
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am “gynllun clir” i lacio’r cyfyngiadau yng Nghymru.
Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Y gwahaniaeth mawr rhwng Cymru a Lloegr yw bod yna gynllun clir nawr yn Lloegr ar gyfer llacio’r cyfyngiadau.”
Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n anodd dweud eto a fyddai Cymru yn dilyn dull tebyg i Loegr er mwyn llacio’r cyfyngiadau, ond y byddai’n parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf ac yn gwneud penderfyniadau pan fo’n “gywir” ac yn “ddiogel” i wneud hynny.
Y rheolau yng Nghymru
Fe gyhoeddodd Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai’r cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau am dair wythnos arall ond bod mân newidiadau yn cael eu gwneud.
Mae’r rhain yn cynnwys caniatáu i bobl ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd – ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny’n lleol, ac ni ddylen nhw deithio ymhell i wneud hynny.
Fe fydd canolfannau garddio hefyd yn cael ail-agor os yw’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.
5 yn rhagor wedi marw
Mae 5 yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan godi cyfanswm y marwolaethau i 1,116, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ogystal, mae 124 yn rhagor o bobl wedi profi’n bositif am y coronafeirws, gan ddod â chyfanswm Cymru i 11,468.
Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch o lawer.