Mae ’na bryderon y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n teithio i Gymru o Loegr wedi cyhoeddiad Boris Johnson nos Sul (Mai 10) ynglŷn â llacio’r cyfyngiadau, meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

Wrth gyhoeddi rhai newidiadau i’r cyfyngiadau neithiwr roedd y Prif Weinidog wedi dweud y bydd pobl yn Lloegr yn cael teithio i ardaloedd eraill i wneud ymarfer corff.

Ond mewn cynhadledd newyddion yng Nghaerdydd dywedodd Mark Drakeford bod ’na bryder y bydd “y llif traffig i mewn i Gymru yn parhau i gynyddu” yn sgil y cyhoeddiad.

Dywedodd ei fod eisiau ei gwneud yn glir nad oedd y rheoliadau yn caniatáu i bobl wneud hynny yng Nghymru.

Fe fydd arwyddion yn cael eu rhoi ar brif ffyrdd a thraffyrdd, gydag erthyglau mewn papurau newydd ar draws y ffin “er mwyn cyfleu’r neges,” meddai Mark Drakeford.

Ychwanegodd bod pedwar prif gwnstabl lluoedd heddlu Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o drais yn ymwneud ag alcohol dros ŵyl y banc, ac mewn gweithgareddau eraill.

Fe gyhoeddodd Mark Drakeford ddydd Gwener y byddai’r cyfyngiadau yng Nghymru yn parhau am dair wythnos arall ond bod mân newidiadau yn cael eu gwneud.

Mae’r rhain yn cynnwys caniatáu i bobl ymarfer corff mwy nag unwaith y dydd – ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny’n lleol, ac ni ddylen nhw deithio ymhell i wneud hynny.

Fe fydd canolfannau garddio hefyd yn cael ail-agor os yw’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn.

Y llywodraethau datganoledig wedi gofyn am eglurder

Mae wedi dod i’r amlwg fod Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gofyn i Boris Johnson fod yn glir ynghylch pryd yr oedd yn siarad am y Deyrnas Unedig gyfan a phryd yr oedd yn siarad am Loegr yn unig yn ei anerchiad ddydd Sul.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Rwy’n credu bod pob un ohonom wedi gofyn am eglurder ynghylch pryd yr oedd yn siarad am y Deyrnas Unedig a phryd yr oedd yn gwneud cyhoeddiadau sy’n berthnasol yn Lloegr yn unig,” meddai Mark Drakeford.

“Fy marn i yw y gellid bod wedi gwneud mwy a byddai wedi bod o gymorth i bob un ohonom pe bai mwy o bwyslais a mwy o eglurder o ran pryd mae’r Prif Weinidog yn siarad am ei gyfrifoldebau ledled y Deyrnas Unedig, a phryd y mae’n gwneud cyhoeddiadau sy’n berthnasol i Loegr yn unig.”

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y gallai cryn ddryswch gael ei greu os bydd gwleidyddion yn “rhoi’r argraff gamarweiniol, hyd yn oed drwy hepgor pethau, fod penderfyniadau sy’n gymwys i un genedl yn unig, yn gymwys ledled y DU”.

Dywedodd: “Nid yw’r ddyletswydd ar arweinwyr gwleidyddol i gyfathrebu yn glir erioed wedi bod yn fwy.”

Ffigurau diweddaraf Cymru

Mae pump o bobl ychwanegol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru.

Daw hyn â chyfanswm nifer y bobl yng Nghymru y gwyddys eu bod wedi marw o’r coronafeirws i 1,116.

Mae’r ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 124 o achosion newydd wedi bod, sy’n golygu bod cyfanswm o 11,468 o achosion o Covid-19 wedi’i cofnodi yng Nghymru erbyn hyn.

Fodd bynnag, mae’r gwir ffigur yn debygol o fod yn uwch gan nad yw pawb sydd â symptomau’n cael eu profi.