Mae trefnwyr marathon Eryri wedi cadarnhau fod bron 2,500 o redwyr wedi cystadlu yn y marathon ddydd Sadwrn (Hydref 28).

Daniel Jones o glwb rhedeg Caerfaddon ddaeth i’r brig yn ras y dynion gydag amser o 2 awr 36 munud a 54 eiliad. Hayley Munn o Northampton ddaeth i’r brig yn ras y merched gydag amser o 2 awr 57 munud a 25 eiliad.

Mi lwyddodd Andrea Rowlands o glwb rhedeg Harriers Eryri i ddod yn ail yn ras y merched gydag amser o 3 awr 1 munud a 38 eiliad.

Y Cymro uchaf yn ras y dynion oedd Rob Johnson o glwb rhedeg Aberystwyth a gyrhaeddodd y nawfed safle gydag amser o 2 awr 50 munud a 46 eiliad.

Mae Marathon Eryri yn cael ei hystyried yr un o’r cyrsiau mwyaf anodd yng ngwledydd Prydain ac un arall fu’n cystadlu oedd Jane Holmes o Sir Gaerfyrddin sy’n derbyn triniaeth i ganser yr ysgyfaint ar hyn o bryd, ac wedi codi mwy na £18,700 at yr achos.

Pump ucha’r dynion:

  1. Daniel Jones 2:36:54 Caerfaddon
  2. Matt Hobbs 2:42:34 Pudsey a Bramley
  3. Paul Jones 2:43:45 Yr Amwythig
  4. Gareth Petts 2:45:30Whitney
  5. Will Russell 2:46:24 Hercules Wimbledon

Pump ucha’r merched:

  1. Hayley Munn 2:57:25 Northampton
  2. Andrea Rowlands 3:01:38 Eryri Harriers
  3. Sarah Cumber 3:13:43 Halifax Harriers AC
  4. Jessica Parry-Williams 3:15:51 Les Croupiers
  5. Emma Wookey 3:15:57 Rhedwyr Llyswyry

Ac mae’r trefnwyr wedi nhw’n cyhoeddi fod ceisiadau ar gyfer Marathon Eryri 2018 yn agor ar Ragfyr 1, gyda’r ras i’w chynnal ar 27 Hydref 2018.