Elan Grug Muse (Llun: Llenyddiaeth Cymru)
Elan Grug Muse yw’r ferch gyntaf i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yn y gyfres sy’n rhoi llwyfan i leisiau newydd, sef ‘Tonfedd Heddiw’.

Cyn hyn mae’r gyfres gan gyhoeddiadau Barddas wedi cyhoeddi cyfrolau gan Llŷr Gwyn Lewis, Guto Dafydd, Gruffudd Owen ac Elis Dafydd.

Ac mae Elan Grug Muse, sy’n un o gyd-olygyddion cylchgrawn llenyddol Y Stamp, yn dweud fod “heriau gwahanol” yn wynebu merched wrth farddoni.

“Mae’r traddodiad barddol Cymraeg yn draddodiad gwrywaidd, patriarchaidd ac efallai nad yw pobol eisiau wynebu hynny – ond os na wnawn ni allwn ni ddim holi pam fod heriau gwahanol i ferched o gymharu â dynion,” meddai wrth golwg360.

Teithio

Ar hyn o bryd mae Elan Grug Muse yn astudio am ddoethuriaeth ar lenyddiaeth deithio Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae cerddi ei chyfrol, Ar Ddisberod, yn ymateb i’w phrofiad yn teithio lle mae wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf y tu allan i Gymru – yn astudio yn Nottingham a Prague, ac yn teithio yn Sbaen ac America.

“Mae mynd dramor yn rhoi ffordd newydd i chi sbïo ar eich cartref, ond allwch chi ddim gwerthfawrogi gweld y tu allan i Gymru heb werthfawrogi Cymru yn gyntaf,” meddai.

Mae’n lansio’i chyfrol yng Ngŵyl Gerallt yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Mai 27), a dyma glip ohoni’n darllen un o gerddi’i chyfrol, ‘Pacio’…