Andrew RT Davies yn honni bod gan Lywodraeth Cymru fwy o ddiddordeb mewn “materion woke” na “phroblemau bob dydd”

Gwnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y sylwadau gan eu bod nhw’n cyflogi pedwar swyddog amrywiaeth ac wedi gwario £150,000 arnyn nhw y llynedd

Aelodau o’r Senedd yn beirniadu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â threth

Pwyllgorau’r Senedd yn poeni y byddai’r dull yn “rhoi llawer gormod o bŵer i weinidogion Cymru” ac yn “gyrru mandad …

‘Angen ystyried y gost o beidio cynyddu maint y Senedd yn lle’r gost o wneud newidiadau’

Cadi Dafydd

Dydy’r wlad ddim yn cael ei rhedeg cystal ag y dylai gyda 60 aelod, meddai Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
Wyneb Elin Jones

Rhaid “estyn allan i’r rhai sydd angen ein cefnogaeth a’n cariad”, medd Llywydd y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi

Yn ei neges fel Llywydd y Senedd, dywed ei bod hi’n “anochel bod ein meddyliau’n troi at Wcráin a’i dinasyddion arwrol”

Y Senedd yn canslo’u digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi i ddangos undod â’r Wcráin

Mae’r sefyllfa yn nwyrain Ewrop wedi gwaethygu unwaith eto dros nos

Plaid Cymru’n cyhoeddi cynllun pum pwynt i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw

“Gellir gwneud mwy i atal hyd yn oed mwy o deuluoedd Cymru rhag cael eu gwthio i dlodi a dioddef effeithiau dinistriol yr argyfwng costau …

Holl Aelodau’r Senedd yn cael dychwelyd i gyfarfod wyneb yn wyneb fis nesaf

Dyma’r tro cyntaf i’r holl aelodau gael eu gwahodd yn ôl i’r Senedd ers mis Mawrth 2020

Amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd ar eu gwaethaf am yr ugeinfed mis yn olynol

Y gwrthbleidiau’n beirniadu Llywodraeth Cymru gan na fydd cynllun adfer i ddelio â’r rhestrau aros yn cael ei gyhoeddi tan fis Ebrill

Pedwar ymhob pum person ifanc yn aros dros fis am apwyntiad iechyd meddwl cyntaf

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae hyn yn dangos pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaeth arbenigol

Angen ymchwilio i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig

Daeth yr alwad yn ystod cyfarfod pwyllgor yn y Senedd gydag arolygwyr addysg yng Nghymru