Erthyglau Noddedig

Profiadau Pencampwr

 

EISTEDDFOD Y CYMOEDD nos Wener Hydref 15fed 2010

 O fewn hanner awr i ddechrau cystadlu roedd Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach yn gyfforddus lawn o gystadleuwyr, hyfforddwyr a chefnogwyr. A thrwy ganol y dorf fawr honno y cerddod gosgordd o blant Ysgol Gymraeg Caerffili i’r llwyfan ar gyfer seremoni cadeirio y darn o ryddiaith neu farddoniaeth orau yn yr adrannau cynradd, uwchradd a dysgwyr. Dyfarnodd y Prifardd Aled Gwyn y gadair, gyda chlod uchel i Gruffudd Gwynn o Machen, disgybl yn Ysgol Uwchradd Cwm Rhymni.. Alun Guy a Iona Jones oedd y beirniaid cerdd eleni. Menna Thomas a ddyfarnwyd yn fuddugol am ganu emyn tra dyfarnodd Catrin Llwyd, y beirniad adrodd, mai Iwan Gruffydd o Gaerffili oedd yn fuddugol am lefaru. Daeth tri chor i gloi’r noson – Parti’r Efail, Cor Cwm Ni a Chor y Rhondda. Arweiniwyd y Cor hwn o drigain o leisiau gan Donna Edwards fel rhan o baratoad y Cor yng nghystadleuaeth Codi Canu S4C. Cor y Rhondda enillodd a bu’r dathlu yn frwdfrydig.

Hon oedd y bedwaredd eisteddfod ers y dechrau yn 2007 ac mae’r pwyllgor eisoes wrthi yn trefnu ar gyfer 2011. O’r rhestr gwobrau fe welwch mai lleol yw’r gwobrau llwyfan ond fod y gwobrau llenyddol yn dod o bob rhan o Gymru fel daw’r eisteddfod hon yn rhan o galendr blynyddol diwylliant Cymraeg Cwm Rhymni.

  R Alun Evans

Canlyniadau Eisteddfod y Cymoedd   Nos Wener Hydref 15fed  Ystrad Mynach

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
UnawdBlwyddyn 1 – 4 Nansi Rhys Adams    Caerdydd Manon Lewis            Caerffili Chloe Preston            Ystrad MynachASophie Shaw               Ystrad Mynach
Unawd Bl 5 – 6  Cerys Lewis             Ystrad Mynach Nia Young Ffion Huey
Unawd  Bl 7 – 9  Mabli Tudur           Caerdydd Anwen Thomas    Caerffili Heledd Gwynant    Caerffili
Unawd  Bl  10 – 13  Aimee  Daniels       Cwm Rhymni Iwan  Gruffydd        Caerffili Rebecca  Davies      Cwm RhymniAKate  Evans                               Cwm Rhymni
Canu  Emyn  Menna  Thomas       Pontypridd    
Deuawd, Triawd neu Pedwarawd Ieuenctid  Y TriawdCwm Rhymni    
Cor Ieuenctid  Ysgol Gymraeg Caerffili Ysgol Bro Allta, Ystrad Mynach  
Cor neu barti agored  Cor Cwm Rhondda Cor Cwmni   Cwm RhymniAParti’r Efail   Efail Isaf  
Dawns Unigol Anwen Thomas      Caerffili Megan Collwill        Caeffili  
Dawns Gyfoes I Barti  Ysgol Y Castell Caerffili      Grwp 1 Ysgol  Y Castell  Caerffili  Grwp 2  
Unawd OfferynnolBl 1 – 6  Niah Orlandes        Ystrad Mynach Aisha Kala – Palmer   Caerffili Ryan Watkins          Ystrad Mynach
Unawd OfferynnolBl 7 -9  Heledd Gwynant    Caerffili    
Llefaru Bl 1 – 4  Eilir TeagleBro Sannan Nansi Rhys Adams    Caerdydd Manon Lewis   CaerffiliARhys WilliamsYstrad Mynach
Llefaru Bl 5 – 6  Niah Orlandes              Ystrad Mynach Ryan Watkins Lauren Stokes
Llefaru  Bl 7 -9  Heledd Gwynant      Caerffili    
Llefaru Agored  Iwan Gruffydd          Caerffili Lynne Davies           Casnewydd  
Celf a Chrefft   Cynradd  Devon Cochran Nia Young Hannah Carter
Celf a Chrefft Uwchradd  Kate Cathy Jones a Ffion Bronwen ChurchillCwm Rhymni    
Ffotagarffiaeth  Sian John   Caerffili Sian John   Caerffili  

 

Llenyddiaeth

Cystadleuaeth 1af 2il 3ydd
Darn Creadigoloed cynradd Isobel Meek                        Ysgol Y Castell Mali Hedd Evans LuggYsgol y Castell Morgan James  aJodie LewisYsgol y Castell
Darn CreadigolOed Uwchradd  Gruffudd Gwynn          Machen Manon Gwynant          Caerffili Jac Rhys Palmer             Caerffili
Cadair yr Eisteddfod  Gruffudd Gwynn    
Englyn  2010  Gwyn M. Lloyd    Llanfairpwll Gruffudd AnturY Bala D. Emrys Williams,  Llangernyw aGwyn M Lloyd Llanfairpwll
Cerdd heb foddros 50 llinell“Y Ffin” Rhys  Gwynn    Dolgellau Denzil JohnCaerffili  
Erthygl addas I bapur bro Ben JonesCaerffili Ben JonesCaerffili John R Morris   Llanrhystud
Limerig  John Meurig Edwards  Aberhonddu Gwyn M Lloyd     Llanfairpwll R. Alun Evans   Caerdydd
Llinell Goll  Margaret V.Griffiths      Caerffili    

Pencampwr Gwir Flas 09/10 oedd Deiniol ap Dafydd, perchennog Blas ar Fwyd yn Llanrwst. Mae’r busnes wedi tyfu o un siop i grŵp o fentrau sy’n cynnwys sawl siop, bwyty, gwin, twristiaeth a’r sector cyhoeddus. Mae Golwg 360 wedi bod yn ei holi …

Aelod o dîm ydw i ym musnes Blas ar Fwyd
Mae Blas ar Fwyd Cyf yn cyflogi rhyw ddeugain o bobl ac mae gan bawb yn y tîm yn gyfrifol am eu swyddi eu hunain. Pan dw i’n mynd i un o’r siopau, dw i yna fel cyd-weithiwr yn barod i helpu, ac nid fel pennaeth yn goruchwylio neu’n cymryd drosodd.

Profiad dysgu yn y ddinas fawr
Ges i brofiad amhrisiadwy wrth fod yn rhan o ddiwydiant bwyd a hamdden Llundain – yn chwysu gweithio mewn amryw o sefydliadau gwahanol bob diwrnod am flynyddoedd cyn mynd ymlaen i redeg canolfan hamdden ac adloniant. Roedd yn ffordd wych o fagu hyder ac yn hanfodol o ran fy ngalluogi i ddechrau busnes fy hun
.
Creu cyfle yng nghefn gwlad Cymru
Roedd dychwelyd i Lanrwst yn yr 80au yn newid mawr – doedd yna ddim swyddi arlwyo ar gyfyl y lle. Ro’n i hefyd wedi dod i arfer ag amrywiaeth eang o fwydydd cain yn Llundain nad oedd ar gael yng ngogledd Cymru bryd hynny. Felly fe gychwynnon ni Blas ar Fwyd yn 1988, gan wneud pob ymdrech dan yr haul i ddod â’r cynnyrch gorau i Lanrwst – heb gymorth unrhyw wefan! Erbyn hyn, ydan ni’n dosbarthu i fusnesau di-ri, y cyntaf i gyrchu caws o Dde i Ogledd Cymru ac yn cyrchu bwyd o Gymru.

Daliwch eich tir
Taswn i wedi cael ceiniog am bob person a fu’n amau llwyddiant y busnes, mi faswn i’n feiolinwyr erbyn hyn! Roedd fy nghyfrifydd yn siglo’i ben wrth sbïo ar ffigyrau’r flwyddyn gynta’ ond doedd o byth yn fy mhoeni i oherwydd ro’n i’n benderfynol o lwyddo. Mae rhai ymwelwyr yn dal i amau hir oes y busnes ond ydan ni dal yma un ar hugain o flynyddoedd wedyn, gyda deli, siop win, bwyty a gwasanaeth arlwyo a bellach y delicatessen fwyaf yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Lundain.

Mae’r archfarchnad yn cymryd drosodd
Mae yna gannoedd o siopau Tesco erbyn hyn sy’n niweidiol dros ben i’r diwydiant bwyd annibynnol ac yn rhwygo’r gymuned leol. Tra bod gan Loegr rywfaint o reolaeth i’w gwarchod erbyn hyn, does dim o’r fath yng Nghymru gwaetha’r modd. Dw i’n gobeithio pan ddaw’r amser y bydd gan bobol Llanrwst yr hunan-barch a’r cyfrifoldeb i sefyll yn gryf yn erbyn hyn.

Mae’r gyfrinach yn y colslo
Mae colslo yn fwyd nodweddiadol i ddelicatessen ac mewn ffordd mae ei gynnwys yn brawf o ansawdd y siop. Dim ond dwy ffatri oedd yn ei wneud bryd hynny a, gyda’r broses dosbarthu, mi fyddai wedi dyddio rhai wythnosau cyn cyrraedd cwsmeriaid Blas ar Fwyd. I’r diben yma, mi benderfynon ni agor cegin gan wneud saladau a chacennau – ac, wrth gwrs, ein colslo ein hunain yn ffres.

Amrywiaeth sy’n rhoi blas ar fywyd
Cynnyrch Cymreig safonol sy’n cael blaenoriaeth yn Blas ar Fwyd ac mae Halen Môn a’i fath yn maeddu llawer o gynnyrch gwledydd eraill. Ond, yn sicr, dw i yn hoff o flasu a hyrwyddo bwydydd tramor o ansawdd – dw i wedi cael addysg dda ym mwydydd y byd diolch i’m rhieni, oedd yn arfer smyglo pob math o ddanteithion yn ôl i Gymru yn y 60au mewn bocsys cornfflêcs!

Cymru, cystal â neb
Pan o’n i yn Efrog Newydd yn ddiweddar, mi ges i gipolwg yn rhai o ddelis enwog Manhattan, ac roedd yn galondid i sylweddoli ein bod ni cystal â nhw. Ydan ni wedi dechrau rhoi’r darnau at ei gilydd erbyn hyn yn niwydiant bwyd Cymru, ac yn cynnig cynhyrchwyr artisan a chynnyrch o ansawdd yn ogystal â chynhwysion crai da.

Yr hwntws a’r gogs?
Mae Llanrwst yn reit fywiog rŵan o ran y diwydiant bwyd ond mae yna lawer mwy o botensial eto i Ddyffryn Conwy i gymharu â chynhyrchwyr gwych Ynys Môn neu’r hyn sydd ar gael gan yr hwntws yn Sir Gâr a Cheredigion.

Llun (Hawlfraint y Goron)

Erthyglau Noddedig

Straeon poblogaidd