Siop Fferm Lewis

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Lewi sy’n cael ein sylw nesaf…


Siop Fferm Lewis

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop fferm Cwmcerrig sy’n cael ein sylw nesaf…

Fe ddechreuodd Mark a Jayne Lewis eu busnes yn gwerthu hanner wyn yn uniongyrchol o’u fferm yn Eyton ger Wrecsam, cyn dod yn un o’r 12 stondin cyntaf ym marchnad ffermwyr Wrecsam. Yn fuan roedd cymaint o alw am y cynnyrch fel y penderfynodd y cwpwl ehangu gan adeiladu siop fferm 55m sgwar, gydag adran gigydd a chegin, ar fferm deuluol i bedair cenhedlaeth. A hithau wedi’i lleoli ar y B5426, 4 milltir o ganol tref Wrecsam, mae’r bartneriaeth gwr a gwraig yn gweithio’n dda; mae Mark yn goruchwylio’r adran gigydd, gan werthu cig eidion, cig oen a phorc yn uniongyrchol o’r fferm, gan gynnwys ei selsig sydd wedi ennill gwobrau, tra bod Jayne a’i thîm yn goruchwylio’r gegin lle caiff cacennau sydd wedi ennill gwobrau a phasteiod traddodiadol eu pobi. Yn ôl Mark, Un o fanteision prynu’n lleol yw lleihau milltiroedd bwyd – mae ein cig eidion, porc a’n cig oen i gyd yn dod o’n fferm ni ac yn cael eu lladd yn lleol.

Rydym yn falch iawn o safon uchel ein cig ac yn gwybod y gall ein cwsmeriaid flasu’r gwahaniaeth. Mae’r siop fferm hefyd yn cynnwys cownter deli ac adran lysiau sy’n darparu amrywiaeth o gynnyrch lleol o’r rhanbarth.

Dweud eich dweud