Mae pob Prydeiniwr yn ninas Benghazi yn Libya wedi cael eu hannog i adael mewn ymateb i “fygythiad penodol sydd ar fin digwydd” yn erbyn gorllewinwyr.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi bod yn cynghori yn erbyn teithio i’r rhan fwyaf o Libya ers mis Medi, ond maen nhw nawr wedi uwchraddio’r rhybudd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym bellach yn ymwybodol o fygythiad penodol i orllewinwyr yn Benghazi, ac yn annog unrhyw ddinasyddion Prydeinig sy’n aros yno yn erbyn ein cyngor i adael ar unwaith.

“Rydym wedi diweddaru ein cyngor teithio i adlewyrchu hyn. Mae Llysgenhadaeth Prydain yn Tripoli wedi bod mewn cysylltiad â dinasyddion Prydeinig y mae gennym fanylion cyswllt iddynt i dynnu eu sylw at y cyngor.”