Mae Israel yn mynd i godi 3,000 o dai ar gyfer ymsefydlwyr ar y Lan Orllewinol ar ôl i Balesteina gael ei chydnabod ddoe gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r tai mewn ardal sy’n destun cecru yn nwyrain Jerusalem, ac os aiff y cynllun yn ei flaen mae Palestiniaid yn dadlau y bydd yn rhannu eu tiriogaeth ar y Lan Orllewinol yn ddwy.

Mae’r penderfyniad i roi sêl bendith i godi’r tai yn cael ei ystyried yn fynegiant o ddicter Israel dros bleidlais y Cenhedloedd Unedig o blaid rhoi statws gwladwriaeth i Balesteina.

Dywedodd Israel fod y bleidlais ddoe yn “ergyd i heddwch” tra bod yr Arlywydd Palesteinaidd Mahmoud Abbas wedi dweud fod y Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi “tystysgrif geni” i wladwriaeth Balestinaidd.

Mae codi tai i ymsefydlwyr yn asgwrn cynnen rhwng y ddwy ochr ac mae trafodaethau heddwch wedi cael eu hatal ers pedair blynedd am fod Palestiniaid yn gwrthod trafod tra bod Israel yn parhau i adeiladu.