Arlywydd Syria, Bashar Assad
Mae gwrthryfelwyr yn brwydro yn erbyn lluoedd llywodraeth Syria dros reolaeth maes awyr milwrol allweddol yng ngogledd y wlad.

Yn ôl ymgyrchwyr hawliau dynol yn Syria, fe wnaeth y gwrthryfelwyr ymosod ar faes awyr Taftanaz ar y doriad gwawr y bore yma.

Mae’r maes awyr wedi cael ei ddefnyddio’n helaeth gan luoedd y llywodraeth i lansio ymosodiadau o’r awyr ar bobl gyffredin y wlad.

Mae tref Taftanaz, ar y briffordd rhwng y brifddinas ac Aleppo yn y gogledd, wedi gweld llawer o frwydro ers dechrau’r gwrthryfel yn erbyn cyfundrefn Bashar Assad ym mis Mawrth y llynedd. Ym mis Ebrill eleni, cafodd dros 60 eu lladd yno mewn cyrch gan fyddin y Llywodraeth ac fe fu’n rhaid i filoedd ddianc o’u cartrefi.

Amcangyfrifir bod 36,000 o bobl wedi cael eu lladd yn Syria ers dechrau’r gwrthdaro.