Barack Obama
Mae Barack Obama wedi cael hwb mawr i’w ymgyrch i ddal gafael ar y Tŷ Gwyn gyda chefnogaeth gan Faer Efrog Newydd.

Yn ôl Michael Bloomberg, mae digwyddiadau’r dyddiau diwetha’ gydag effaith y  storm fawr ‘Sandy’ wedi dangos mai’r Arlywydd sydd ar y trywydd iawn o ran polisi ar newid hinsawdd.

Roedd y ddau ymgeisydd – Obama a’r Gweriniaethwr Mitt Romney – wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth Michael Bloomberg, sy’n wleidyddol annibynnol ond yn gyn Weriniaethwr.

Roedd Bloomberg wedi gwrthod cefnogi ymgeisydd yn 2008 ond y tro yma mae wedi cyhoeddi datganiad yn cymharu’r ddau a chefnogi Barack Obama.

Fe ddaeth ei ymyrraeth wrth i’r ddau ymgeisydd ruthro o amgylch y naw talaith allweddol sy’n debyg o benderfynu canlyniad yr etholiad ddydd Mawrth.

Beth ddywedodd Bloomberg

“Mae un yn gweld fod newid hinsawdd yn broblem frys sy’n bygwth ein plannet; dyw un ddim yn gweld hynny,” meddai Michael Bloomberg.

“Dw i eisiau i’n harlywydd osod tystiolaeth wyddonol a rheoli risg uwchlaw gwleidyddiaeth etholiadau.”