Mae o leiaf 22 o bobl wedi cael eu lladd mewn tanchwa yn Riyadh, prifddinas Saudi Arabia, wrth i dancer olew ffrwydro a thanau ledaenu i gerbydau ac adeiladau cyfagos.

Mae o leiaf 110 arall wedi cael eu hanafu, ac mae ofnau y gallai nifer y marwolaethau godi wrth i achubwyr chwilio drwy’r rwbel.

Does dim tystiolaeth ar hyn o bryd mai ymosodiad terfysgol oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad, a’r awgrym yw y gallai’r tancer fod wedi ffrwydro ar ôl taro ymyl y draffordd.