Difrod y storm (PA - AP Photo)
Mae o leia’ 50 o bobol wedi cael eu lladd gan y storm fawr yn yr Unol Daleithiau.

Mae hynny’n llai na’r cyfanswm yn ynysoedd y Caribî yr wythnos ddiwetha’ ond mae disgwyl y gallai ‘Sandy’ achosi rhagor o ddifrod heddiw.

Ddoe, roedd mwy nag 8 miliwn o gartrefi heb drydan, gyda chwarter y rheiny yn Efrog Newydd lle mae’r system trenau tan ddaear wedi cael ei difrodi’n waeth nag erioed o’r blaen.

Mae’r system ynghau heb ddyddiad ar gyfer ei hailagor ac roedd y Farchnad Stoc ynghau am yr ail ddiwrnod.

Yn ôl un cwmni proffwydo ariannol, fe fydd cyfanswm cost y difrod tua £12 biliwn.

Ras y Tŷ Gwyn

Mae’r storm yn parhau i effeithio ar yr ymgyrch ar gyfer y Tŷ Gwyn hefyd.

Heddiw, fe fydd yr Arlywydd Barack Obama’n ymweld â rhai o’r ardaloedd sydd wedi  eu heffeithio waetha’ wrth iddo atal ei ymgyrch am y trydydd diwrnod yn olynol.

Fe fydd ei wrthwynebydd Gweriniaethol, Mitt Romney, yn cynnal digwyddiad yn un o’r taleithiau allweddol ond mae hwnnw wedi ei alw’n ddigwyddiad codi arian at y stormydd.