Mae tân wedi difrodi o leiaf 100 o gartrefi oedd wedi eu heffeithio gan lifogydd yn sgil Corwynt Sandy yn Queens, yn Efrog Newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys bod mwy na 190 o ddiffoddwyr tân yn ceisio mynd i’r afael â’r fflamau yn ardal Breezy Point. Cafodd dau o bobl fân anafiadau.

Yn ôl swyddogion, fe ddechreuodd y tân tua 11yh nos Lun mewn ardal oedd eisoes wedi dioddef llifogydd yn sgil y corwynt.

Yn y cyfamser mae hyd at 16 o bobl wedi marw wrth i wyntoedd hyd at 90 milltir yr awr daro arfordir New Jersey. Mae miliynau o bobl heb gyflenwad trydan ac mae llifogydd wedi effeithio ffyrdd a gorsafoedd trenau tanddaearol.

Mae’r farchnad stoc yn Wall Street ar gau am yr ail ddiwrnod yn olynol. Dyma’r tro cyntaf i’r farchnad stoc gau am ddau ddiwrnod yn olynol ers 1888 yn dilyn eira trwm.