Laura Mintegi, arweinydd EH Bildu
Mae etholwyr Gwlad y Basg wedi anfon neges glir at Fadrid trwy bleidleisio dros ddwy o bleidiau cenedlaetholgar y dalaith mewn etholiadau ddoe.

Enillodd cenedlaetholwyr cymedrol Plaid Genedlaethol Basg 27 o seddi, ac enillodd clymblaid newydd asgell-chwith EH Bildu 21 o seddi. Mae EH Bildu yn cynnwys rhai o gyn-aelodau  Herri Batasuna, adain wleidyddol y grŵp milwrol ETA sydd wedi galw cadoediad ar ôl pedwar degawd o sgarmesoedd.

Mae gan y pleidiau cenedlaetholgar ddwy ran o dair o seddi’r senedd ranbarthol bellach ac mae disgwyl y byddan nhw’n ffurfio clymblaid. Mae hefyd disgwyl iddyn nhw ddilyn trywydd Catalonia a galw refferendwm ar annibyniaeth i Wlad y Basg.

Mae cenedlaetholwyr Gwlad y Basg  a Chatalonia hefyd yn edrych yn ofalus ar yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban ac ymgyrch refferendwm 2014.

Roedd newydd gwell i Brif Weinidog Sbaen Mariano Rajoy yn etholiadau talaith Galisia yn ngogledd-orllewin Sbaen. Llwyddodd ei blaid, y Blaid Boblogaidd, i ddal ei gafael ar reolaeth o’r senedd ranbarthol yno.