Fe fydd y ffrog gafodd ei gwisgo gan Judy Garland yn y ffilm The Wizard of Oz yn cael ei werthu mewn arwerthiant fis nesaf.

Amcangyfrifir bod y ffrog binaffor glas a gwyn yn werth mwy na £300,000.

Er bod nifer o ffrogiau wedi cael eu gwneud ar gyfer y cymeriad Dorothy, y ffrog sy’n cael ei gwerthu yw’r unig fersiwn sy’n cael ei gweld yn y ffilm a’r unig un gwreiddiol i oroesi ers i’r ffilm ymddangos ym 1939.

Fe fydd y ffrog yn cael ei arddangos yng Ngwesty Stafford yn Llundain cyn symud i Beverly Hills cyn yr arwerthiant ar 9 a 10 Tachwedd.