Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi maeddu’r heriwr Mitt Romney… o ran nifer y bobol a wyliodd eu hareithiau ar y teledu.
Dywedodd cwmni Nielsen bod 35.7 miliwn o bobol wedi gwylio noson olaf cynhadledd y Democratiaid.
Dyna pryd y traddododd Barack Obama ei araith i dderbyn enwebiad ei blaid am ail dymor yn y Tŷ Gwyn.
Dim ond 30.3 miliwn wyliodd Mitt Romney yn siarad yng Nghynhadledd y Gweriniaethwyr yr wythnos cynt.
Ond doedd Obama 2012 ddim yn gallu cymharu ag Obama 2008. Bryd hynny fe wyliodd 40 miliwn o bobol y darpar-Arlywydd yn mynd drwy’i bethau.