Yr Arlywydd Assad - euog
Mae adroddiad gan banel o’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod y ddwy ochr yn Syria yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth.

Mae hynny’n cynnwys pobol ar y lefel ucha’ o fewn y lluoedd arfog a’r Llywodraeth, yn ôl yr adroddiad gan y panel i Gyngor Hawliau Dynol y CU.

Ac, yn ôl y ddogfen sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, roedd troseddau’r Llywodraeth a’i chefnogwyr yn llawer gwaeth na throseddau’r gwrthryfelwyr.

Y fyddin a milwyr sy’n cefnogi’r Arlywydd Assad oedd yn gyfrifol am ladd mwy na 100 o bobol gyffredin mewn ymladd yn ardal Al-Houla ym mis Mai, a hynny’n cynnwys tua 50 o blant.

Roedden nhw hefyd yn euog o boenydio a throseddau rhywiol ac, ym marn y panel, roedd y troseddau wedi’u cyflawni wrth wireddu polisi’r wladwriaeth.

Yn ôl y panel, mae mwy nag 20,000 o bobol wedi marw yn yr ymladd yn Syria ac, yn ystod y misoedd diwetha’, mae’r ddwy ochr wedi mynd yn fwy ciaidd ac yn defnyddio mwy o rym milwrol.