Mae Iran wedi gofyn am gymorth gan wledydd tramor yn dilyn dau ddaeargryn a darodd y wlad penwythnos diwethaf.

Cafodd 306 o bobol eu lladd a dros 3,000 eu hanafu pan darodd y dirgryniad ar ffiniau Azerbaijan ac Armenia.

Roedd swyddogion y wlad wedi gwrthod cymorth allanol am ddeuddydd wedi’r trychineb.

Ond yn dilyn beirniadaeth am fethiant y wlad i ymateb i’r daeargryn, dywedodd is-lywydd Iran, Mohammad Reza Rahimi, eu bod yn croesawu unrhyw help gan wledydd tramor.

“Rydym bellach, o dan yr amgylchiadau diweddaraf, yn barod i dderbyn help gan amryw o wledydd,” meddai.

Fe darodd y daeargryn ardaloedd Ahar, Haris a Varzagan yn nhalaith Iranaidd Dwyrain Azerbaijan.

Iran yn gyfarwydd â ddaeargrynfeydd

Dywed America eu bod am ddarparu bwyd a meddyginiaeth i ddioddefwyr y trychineb er bod ganddyn nhw ataliad economaidd ar Iran.

Mae Iran eisoes wedi gwrthod help tîm achub o Dwrci a oedd wedi cyrraedd yno heb gyd-drefniant ymlaen llaw.

Roedd papurau newydd yn Iran wedi gohebu ar sut yr oedd Aelodau Seneddol yno wedi beirniadu’r llywodraeth am ei “hymateb araf” i’r trychineb.

Mae Iran wedi’i leoli ar ffawtliniau seismig ac yn dioddef daeargrynfeydd yn aml. Yn 2003, fe laddwyd 26,000 o bobol gan ddaeargryn 6.6 a ddifethodd y ddinas hanesyddol Bam yn y de ddwyrain.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraeth Iran wedi ariannu prosiectau i atgyfnerthu adeiladau mewn ardaloedd gwledig – ond bu’r ymgyrch yn aneffeithiol oherwydd diffyg goruchwyliaeth.

Mae ystadegau swyddogol yn dweud mai dim ond 20 y cant o adeiladau mewn ardaloedd gwledig sydd â fframiau metel neu goncrit.