Amiens ar ddiwrnod heddychlon
Mae tua 100 o bobl ifanc wedi bod yn ymladd â’r heddlu dros nos yng ngogledd Ffrainc.

Mae’r heddlu yn ninas Amiens wedi bod yn ceisio cadw trefn ar ôl ymosodiadau ar geir, canolfan hamdden ag ysgol feithrin.

Mae yna adroddiadau bod degau o heddweision wedi cael eu hanafu yn ystod dwy noson o wrthryfela.

Achos y tensiwn, yn ôl adroddiadau, yw diffyg swyddi, hiliaeth ac ymdeimlad ymhlith pobl ifanc eu bod ar gyrion y gymdeithas.

Dyma’r terfysgoedd gwaethaf yn Ffrainc ers 2005, pan gyhoeddwyd cyfnod o argyfwng gan y llywodraeth asgell dde ar y pryd.

Roedd yna brotestiadau pellach yn y wlad yn 2007 pan gafodd dau lanc eu lladd gan gar heddlu yn 2007, ac unwaith eto yn 2010 pan gafodd dyn ifanc ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl lladrata o gasino.