Paul Ryan
Mae dewis y Gweriniaethwyr yn ddarpar ddirprwy-Arlywydd ar gyfer yr etholiad Arlywyddol yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ymosod yn ffyrnig ar Barack Obama.

Yn ystod ei ddiwrnod cyntaf yn ymgyrchu ar ei ben ei hun gyferbyn â Mitt Romney, dangosodd Paul Ryan mai ei swyddogaeth ef fyddai ymosod ar yr Arlywydd presennol bob gafael.

Cyhuddodd y cyngreswr 42 oed Obama o “ddifetha dyfodol ein plant drwy wario’n ddi-hid” wrth iddo ymgyrchu yn nhalaith allweddol Iowa.

“Wrth i’r Arlywydd ddod drwy Iowa ar ei fws ymgyrchu, beth am ofyn iddo’r un cwestiwn ydw i wedi bod yn ei gael gan bawb yn yr Unol Daleithiau,” meddai.

“Lle mae’r swyddi, Mr Arlywydd?”

Mae Paul Ryan yn denu cefnogaeth fawr gan Weriniaethwyr, a dicter gan Ddemocratiaid, am ei gynllun i dorri’n ôl yn sylweddol ar wariant cyhoeddus yn y wlad.

Mae Democratiaid wedi ei gyhuddo o fod eisiau cael gwared ar wasanaeth iechyd Medicare y wlad.

Mae Paul Ryan wedi dweud ei fod o blaid rhoi’r arian yn syth i bensiynwyr a gadael iddyn nhw benderfynu drostyn nhw eu hunain pa gwmni preifat i fynd ato.

Mae arolygwyr annibynnol yn dweud y byddai hynny yn debygol o olygu bod pensiynwyr yn talu mwy am eu gofal iechyd nag ydyn nhw dan gynlluniau Barack Obama.

Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr i olynu Barack Obama yn arlywydd yn yr etholiad ym mis Tachwedd, Mitt Romney, wedi ceisio ymbellhau ei hun oddi wrth gynlluniau Paul Ryan.

Fe fyddai’r Gweriniaethwyr “yn sicrhau ein bod ni’n cynnal a chadw Medicare,” meddai.

Tri mis cyn yr etholiad, mae’r polau piniwn yn awgrymu bod Barack Obama yn parhau ar y blaen i Mitt Romney.