Fe fu farw gyrrwr hers ar y ffordd i angladd, â’r arch yn dal yng nghefn y car.

Dywedodd Heddlu Beverly Hills eu bod nhw wedi cael gwybod tua 3pm ddoe bod corff dynes mewn hers a oedd wedi ei barcio ger gwesty yn yr ardal.

Roedd yr ymchwiliad newydd ddechrau, ond roedd yn ymddangos bod y ddynes wedi marw o achosion naturiol.

Doedd dim tystiolaeth bod unrhyw arfau neu drais wedi eu defnyddio, meddai llefarydd.