Mae barnwr yn yr Eidal wedi penderfynu y dylai’r Prif Weinidog, Silvio Berlusconi, wynebu achos llys ar gyhuddiadau o dalu am rhyw gyda merch 17 oed ac am gam-ddefnyddio ei rym gwleidyddol i rwystro’r stori rhag dod i’r amlwg.

Penderfynodd y Barnwr Cristina di Censo y dylai’r Prif Weinidog 74 oed ateb cyhuddiad yn ymwneud a pherthynas honedig rhyngddo a Karima el Mharoug, a ddaw’n wreiddiol o Morroco, pan roedd hi’n 17 oed. Mae’r ddau wedi gwadu’r cyhuddiad, ond mae hi wedi cyfadde iddi dderbyn bron i £6000 ganddo y tro cynta iddyn nhw gyfarfod.

Dydy talu am wasanaeth putain ddim yn anghyfreithlon yn yr Eidal, oni bai fod y butain o dan 18 oed.

Daw’r cyhuddiad o gam-ddefnyddio grym yn sgil ymdrechion gan Silvio Berlusconi i ryddhau Karima el Mahroug o ddalfa’r heddlu, lle roedd hi’n cael ei chadw ar amheuaeth o ddwyn, a hynny am ei fod yn ofni y byddai hi’n cyhoeddi eu perthynas pe na bai’n gwneud hynny.

Bydd y ddau gerbron tri barnwr ym Milan ar ddechrau Ebrill.