(Llun: Scott De Buitléir)
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Vodafone UK wrth golwg360 fod costau i yrru negeseuon testun yn y Wyddeleg yn ddrutach na gyrru rhai yn y Saesneg.

Roedd adroddiadau yn y Belfast Telegraph yn honni fod y defnydd o’r acen, neu’r síneadh fada, yn gwneud y gost o ddanfon y tecst dair gwaith yn fwy costus.

Ond ychwanegodd y llefarydd fod gan hyn ddim effaith ar y gost o yrru negeseuon drwy gyfrwng y Gymraeg gan ei fod “o fewn ffiniau’r Deyrnas Unedig”.

Dywed cwmnïau ffôn Vodafone a o2 fod defnyddio acenion yn costio mwy i’w gyrru oherwydd nad ydynt yn rhan o’r wyddor SMS ac felly mae’n yn cymryd mwy o ddata i’w trosglwyddo.

Mae hi’n rhatach gyrru neges gyda llun wedi ei atodi nag ydi hi i yrru tecst gyffredin yn Wyddeleg.

Yng ngwlad Twrci, mae cytundeb yn bodoli rhwng cynhyrchwyr ffonau symudol â’r gweithredydd i ganiatáu’r defnydd o acenion mewn tecst heb unrhyw gost ychwanegol.

Dywedodd y llefarydd fod cwmni Vodafone yn ystyried y mater yn Iwerddon.