Y fflamau ar lwyfan olew Deepwater Horizon
Roedd cyn bennaeth drilio cwmni olew BP wedi ymddiswyddo ychydig fisoedd cyn trychineb olew’r Gwlff, a hynny dros drefniadau diogelwch.
Mae dogfennau cyfreithiol sydd wedi eu cyflwyno yn Houston, Texas, yn honni fod Kevin Lacy, un o uchel swyddogion y cwmni, wedi ymddiswyddo ym mis Rhagfyr 2009 oherwydd ei bryderon.
Fe ddigwyddodd trychineb olew Deepwater Horizon – y gwaethaf yn hanes yr Unol Daleithiau ar 20 Ebrill, 2010 – gan ladd 11 o weithwyr.
Roedd ffrwydrad wedi arwain at ollwng miliynau o filiynau o alwyni olew i’r culfor.
Mae’r Adran Gyfiawnder yn yr Unol Daleithiau’n cynnal ymchwiliad troseddol i’r digwyddiadau ac eisoes wedi erlyn rhai cwmnïau oedd yn gyfrifol.
Honiadau
Mae’r cyn-bennaeth yn honni bod BP wedi cuddio gwybodaeth a gwneud datganiadau ffug a chamarweiniol am ymarferion diogelwch y cwmni cyn y trychineb.
Roedd torri swyddi a’r gyllideb ddiogelwch wrth ad-drefnu’r cwmni yn 2007 hefyd wedi effeithio ar allu’r cwmni i ddrilio’n ddiogel yng nghwlff Mecsico, meddai.
Mae’r cwynion hefyd yn rhestru damweiniau a phroblemau diogelwch a gafodd BP cyn y trychineb.
Mae BP wedi gwrthod ymateb.
Bil o £6 biliwn i Chevron
Fe gafodd cwmni olew Chevron orchymyn i dalu gwerth £6 biliwn o iawndal a chostau glanhau ar ôl eu cael yn euog o lygru lleiniau eang o goedwigoedd glaw yn Ecuador.
Er mai dyma’r iawndal mwya’ o’i fath yn dilyn achos cyfreithiol, roedd dedfryd y llys lawer yn is nag yr oedd arbenigwyr wedi ei argymell.
Mae Chevron wedi dweud bod dyfarniad y llys yn “anghyfreithlon ac yn amhosib ei weithredu” ac fe fyddan nhw’n apelio.