Ban Ki-moon
Mae adroddiad newydd gan y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod mwy a mwy o blant wedi’u lladd a’u hanafu yn y rhyfel yn Afghanistan.

Mae’n dangos bod 1,795 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu yn y ddwy flynedd rhwng dechrau Medi 2008 a diwedd Awst 2010, a hynny oherwydd trais yn gysylltiedig â’r ymladd yno.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y corff rhyngwladol, mae plant yn parhau i ddioddef oherwydd ymosodiadau a chyrchoedd milwrol gan y Taliban a grwpiau arfog eraill, yn ogystal ag oherwydd byddin Afghanistan a  milwyr rhyngwladol.

Mae yna enghreifftiau yn yr adroddiad hefyd o blant yn cael eu defnyddio i ymladd.

Mae’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Ban Ki-moon, yn galw am ragor o ymdrechion i amddiffyn plant rhag trais.

A milwyr hefyd

Mae nifer y marwolaethau ymhlith milwyr gwledydd Prydain wedi codi hefyd.

Fe gafodd dau eu lladd mewn tân yn Afghanistan fore ddoe ac un arall mewn ffrwydrad yn ystod y dydd.

Mae’n golygu bod 357 o filwyr Prydeinig bellach wedi eu lladd yno ers dechrau’r rhyfel ddeng mlynedd yn ôl.