Cairo
Fe fu’r awdurdodau yn yr Aifft yn ceisio clirio protestwyr a oedd wedi casglu unwaith eto yn Sgwâr Tahrir yng nghanol y brifddinas Cairo.

Ac mae miloedd o weithwyr wedi bod ar streic i geisio rhoi pwysau ar y Llywodraeth dros dro newydd  godi eu cyflogau.

Roedd y gweithwyr cyhoeddus yn cynnwys heddlu a gyrwyr ambiwlans; roedd gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus hefyd ar streic.

Erbyn diwedd y dydd, roedd rhannau helaeth o Sgwâr Tahrir wedi cael eu clirio ond roedd nifer o brotestiadau mewn rhannau eraill o’r ddinas, gan gynnwys y streicwyr a phobol ddi-waith.

Mae adroddiadau hefyd bod yr Arlywydd Hosni Mubarak yn wael, gyda dau o bapurau newydd Cairo’n dweud ei fod yn isel ac yn gwrthod cymryd moddion.