Gabrielle Giffords
Mae’r gyngreswraig Gabrielle Giffords wedi dechrau siarad yn ragor aml yn ôl doctoriaid sy’n ei thrin.

Mae hi bellach wedi siarad ar y ffôn gyda’i brawd yng nghyfraith Scott Kelly, sydd yn ofodwr fel ei gŵr Mark Kelly, tra ei fod yn yr Orsaf Ofod Rhyngwladol.

Yn ôl adroddiadau yn y New York Times, mae Gabrielle Giffords yn dal i gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, gan gynnwys datblygiadau yn yr Aifft.

Dywedodd ei phennaeth staff, Pia Carusone, ei bod hi’n sicr yn deall beth oedd yn cael ei ddweud a’i bod hi yn ymateb ar lafar.

Saethwyd Gabrielle Giffords yn ei phen ar 8 Ionawr wrth gwrdd ag etholwyr tu allan i archfarchnad yn Tuscon, Arizona.

Mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Houston ers diwedd mis Ionawr.