Mae llywodraeth China wedi galw am frys yn y gwaith o ailgyfeirio dŵr i ddelio â’r sychder mawr yng ngogledd ddwyrain y wlad.

Maen nhw’n dweud bod peryg i’r cynhaeaf gwenith yno oherwydd yr argyfwng ac fe allai hynny arwain at gynnydd ym mhris y grawn ar draws y byd.

Yn ôl adroddiadau gan gyfryngau’r wladwriaeth, mae swyddog o Weinyddiaeth yr Amgylchedd yn dweud bod eira ysgafn wedi disgyn dros y penwythnos ond nad yw hynny’n agos i’r hyn sydd ei angen ar yr ardal.

Dyw’r ‘ardal wenith’ yn un o’r gwledydd sy’n tyfu rhan helaeth o wenith y bydd ddim wedi derbyn bron dim glaw ers mis Hydref.

Dywedodd Swyddfa Rheoli Llifogydd a Datrys Sychder China fod y sefyllfa’n parhau’n “anobeithiol” a’u bod nhw’n annog mwy o ddulliau newydd o gael gafael ar ddŵr, er enghraifft cloddio ffynhonnau.