Trigolion lleol yn protestio
Mae’r awdurdodau yn Tsieina wedi rhoi gorau i adeiladu gwaith trin aloi copr yn rhanbarth Sichuan yn dilyn protestiadau treisgar gan drigolion lleol.

Dywedodd swyddogion lleol fod nifer fawr o bobl wedi ymgynnull yn ninas Shifang dydd Sul a ddoe i brotestio yn erbyn y gwaith oherwydd eu pryderon am yr amgylchedd.

Mi gafodd aelodau o’r heddlu a rhai protestwyr eu hanafu wrth i boteli gael eu taflu a cheir eu difrodi, meddai’r swyddogion.

Maen nhw wedi dweud y bydden nhw yn awr yn ymgynghori â’r trigolion ynglŷn â’r prosiect, ac na fyddai’r  gwaith yn ailddechrau hyd nes byddai’r “mwyafrif o’r bobl yn ei gefnogi.”

Ond dywedodd un ddynes leol wrth y BBC fod anhrefn o hyd ar y strydoedd, gyda llawer o heddlu gydag arfau a heddlu terfysg yn ceisio cadw trefn.

Dywedodd llywodraeth dinas Shifang fod 13 o brotestwyr wedi cael eu hanafu ddoe ac wedi eu hanfon i’r ysbyty.

Mae’r heddlu yn Shifang wedi rhybuddio heddiw y bydden nhw’n cosbi’n llym unrhyw un fydd yn annog, cynllunio neu drefnu protestiadau neu unrhyw un fydd yn dwyn ac yn creu difrod.