Mae diweithdra yn 17 o wledydd parth yr ewro wedi codi unwaith eto ym mis Mai.

Fe gyhoeddodd swyddfa ystadegau’r Undeb Ewropeaidd, Eurostat, bod nifer y di-waith wedi cynyddu 11.1% ym mis Mai o’i gymharu â 11% ym mis Ebrill. Dyma’r nifer fwyaf i gael eu cofnodi’n ddi-waith ers i’r ewro gael ei lansio ym 1999.

Mae pryderon am argyfwng yr ewro wedi cael effaith ar economi gwledydd yr ewro.

Sbaen sydd â’r nifer fwyaf o bobl ddi-waith, lle mae bron i un ymhob pedwar yn ddi-waith, gyda Gwlad Groeg yn dilyn.

Roedd cyfanswm o 17.6 miliwn yn ddi-waith yng ngwledydd yr ewro ym mis Mai, cynnydd o 1.8 miliwn ers y flwyddyn flaenorol.