Atomfa Ringhals
Mae Sweden wedi tynhau mesurau diogelwch yn eu gorsafoedd ynni niwclear ar ôl i ffrwydron gael eu darganfod mewn lori ger atomfa Ringhals.

Cafodd y “deunyddiau ffrwydrol” eu darganfod yn ystod archwiliad arferol ar safle diwydiannol ger yr atomfa ddoe.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Tommy Nyman, eu bod yn ymchwilio i’r mater.

Mae gan Sweden 10 adweithydd niwclear sy’n darparu bron i hanner cyflenwad trydan y wlad. Mae ’na bedwar adweithydd yn Ringhals, sy’n cael eu rheoli gan gwmnïau ynni Vattenfall a E.ON.