Gwesty'r Taj Mahal ym Mumbai, lle digwyddodd yr ymosodiad terfysgol yn 2008
Mae India a Phacistan wedi cytuno i ail-ddechrau’r trafodaethau heddwch am y tro cyntaf ers yr ymosodiadau ar Mumbai yn 2008.

Daw’r cyhoeddiad yn sgîl blwyddyn o drafodaethau rhwng rhai o brif swyddogion y ddau elyn niwclear ynglyn ag ail-sefydlu ffydd rhwng y cymdogion.  

Cyhoeddodd y ddwy lywodraeth, mewn datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd ar yr un adeg yn Islamabad ac yn Delhi Newydd heddiw, y byddai’r trafodaethau yn ail-ddechrau.  

Yn y datganiad, dywedodd y llywodraethau y byddai pwyslais y trafod yn cynnwys materion gwrth-derfysgaeth, achosion dyngarol, heddwch a diogelwch, a thynged Kashmir – ardal sy’n cael ei hawlio gan y ddwy wlad.