Yr Arlywydd Assad
Mae’r Arlywydd Assad o Syria wedi gwadu mai lluoedd y llywodraeth oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Houla pan laddwyd dros gant o bobl – hanner ohonyn nhw’n blant.

Wrth annerch senedd y wlad, disgrifiodd y gyflafan fel “trosedd hyll” gan feio terfysgwyr a “grymoedd o’r tu allan” am drafferthion Syria.

Mae ymchwilwyr y Cenehedloedd Unedig yn amau mai’r carfannau o blaid y llywodraeth oedd yn gyfrifol am rai o’r llofruddiaethau yn Houla.

Yn ei araith gyhoeddus gyntaf ers y digwyddiad yno, dywedodd yr Arlywydd Assad bod Syria ar drothwy rhyfel gan fynnu bod rhaid ymladd yn erbyn terfysgaeth. Ychwanegodd na fydd y llywodraeth yn drugarog.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amau bod ymhell dros 9,000 o bobl wedi marw yn Syria ers i’r traffferthion gychwyn yno.

Libanus

Yn y cyfamser mae llywodraeth Libanus wedi anfon milwyr i ddinas Tripoli wedi i o leiaf 10 o bobl gael eu lladd mewn terfysg yno.

Fe rybuddiodd Llysgennad Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Kofi Annan, ddoe y gall y terfysg yn Syria ledaenu i wledydd eraill.

Mwslemiaid Sunni, sydd o blaid y gwrthryfelwyr yn Syria, a charfan Fwslemaidd yr Alawite sy’n cefnogi llywodraeth Assad, oedd yn ymladd yn Tripoli.

Mae llawer o garfannau Mwslemaidd i’w cael ledled y rhan yma o’r Dwyrain Canol a dyma paham mae Kofi Annan yn pryderu y bydd yr ymladd yn ymledu.

Mae miloedd o ffoaduriaid o Syria eisoes yn byw ac yn gwersylla yn Libanus.