Dorjee Tseten Llun: Gwefan Free Tibet
Mae gwraig Tibetaidd yn ei 30au wedi ei lladd ei hun trwy losgi’n fwriadol, yn brotest yn erbyn gormes gan China.

Dyma’r trydydd achos o losgi’r wythnos hon – fe fu farw llanc 19 oed mewn achos tebyg yn y brifddinas, Lhasa, ddydd Sul.

Mae mwy na 30 o Dibetiaid wedi eu llosgi eu hunain yn ystod y 15 mis diwetha’ i brotestio yn erbyn gormes China yn erbyn Bwdaeth a diwylliant Tibet.

Maen nhw hefyd yn galw am i’w harweinydd ysbrydol y Dalai Lama gael dod yn ôl i Tibet ar ôl bod yn alltud ers mwy na hanner canrif.

Dau’n marw

Yn ôl y mudiad ymgyrchu, Free Tibet, roedd y wraig, Rechok, a oedd yn fam i dri o blant, wedi teithio o’r wlad er mwyn cynnal ei phrotest y tu allan i fynachlog Fwdaidd mewn ardal Dibetaidd o dalaith Sichuan yn China.

Roedd y llanc 19 oed, Dorjee Tseten, yn un o ddau a losgodd eu hunain yn y brifddinas – y tro cynta’ i brotestiadau ddigwydd yno.