Plentyn wedi ei anafu
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague ymhlith arweinwyr gwledydd y gorllewin sy’n galw am gyfarfod brys o Gyngor Diogewlch y Cenhedloedd Unedig yn dilyn cyflafan yn ardal Houla yn Syria ble cafodd o leiaf 90 o bobl eu lladd.

Roedd 32 o blant dan 10 oed ymhlith y rhai fu farw.

Mae llywodraeth Syria wedi beio ‘gangiau o derfysgwyr arfog’ am y gyflafan ond ar ôl gweld fideo o gyrff plant mewn mosg, dywedodd Hilary Clinton bod rhaid i “reolaeth yr Arlywydd Bashar Assad trwy lofruddiaeth ac ofn” ddod i ben ac “y dylai y rhai sydd wedi achosi’r erchylltra yma gael eu hadnabod a’u dal i gyfrif.”

Lladdwyd trigolion Houla, sydd i’r gogledd orllewin o ddinas Homs ynghanol Syria, gan ymosodiadau gan fyddin y llywodraeth dydd Gwener yn dilyn protestio yno. Dywed llygad dystion bod y milwyr o garfan y shabiba wedi rhuthro i mewn i’r pentrefi gan saethu dynion yn y strydoedd a thrywanu merched a phlant yn eu cartrefi.

Mewn cyfweliad ar Skype, dywedodd un dyn lleol, Abu Yazan “ Mae nhw wedi lladd teuluoedd cyfan, yn rieni a phlant ond roeddyn nhw’n canolbwyntio ar y plant.”

Mae Ysgrifenydd Cyffredinol y CU, Ban Ki-Moon wedi condemnio’r hyn ddigwyddodd yn llym.

“Mae’r drosedd erchyll a chreulon yma trwy ddefnddio grym diwahan a digymesur yn ymyraeth difrifol yn y gyfraith ryngwladol ac yn addewid llywodraeth Syria i roi’r gorau i ddefnyddio arfau trymion mewn canolfannau poblog,” meddai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague ei fod o blaid “ymateb rhyngwladol cryf” i’r hyn sydd wedi digwydd.

“Y flaenoriaeth fawr ydi cael gwybod yn union sut y digwydd y drosedd ddifrifol yma a gweithredu yn sydyn i sicrhau bod pawb sy’n gyfrifol yn cael eu hadnabod a’u dal i gyfrif,” meddai.