De Affrica (o wefan wikipedia)
Mae achubwyr wedi dod o hyd i wyth corff ar ôl i awyren oedd yn cario naw o bobl ddisgyn mewn gwarchodfa natur yn Ne Affrica.

Fe ddywedodd Craig Lambinon, o’r Gwasanaeth Achub Cenedlaethol fod rwbel o’r awyren wedi’i ddarganfod yn fuan fore heddiw. Nid yw’r awdurdodau wedi cael hyd i neb a lwyddodd i oroesi’r gwrthdrawiad.

Yn ôl Craig Lambinon, roedd niwl trwm yn yr ardal -ond mae achos y gwrthdrawiad , 320 milltir i’r dwyrain o Cape Town yn parhau i gael ei ymchwilio.

Roedd yr awyren yn hedfan rhwng dau faes awyr bychan yn Ne Affrica pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cwmni Johannesburg-based Italtile oedd yn berchen ar yr awyren.