Silvio Berlusconi
Mae erlynyddion ym Milan wedi dweud eu bod nhw eisiau dwyn achos yn erbyn prif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi.

Mae’r erlynydd Edmondo Bruti Liberati yn honni fod Silvio Berlusconi wedi talu am ryw gyda merch 17 oed, ac yna wedi defnyddio ei ddylanwad gwleidyddol i geisio celu’r gwir.

Dywedodd yr erlynydd y byddai’n cyflwyno’r cais am achos llys yn Milan yfory. Fe fydd yn penderfynu yn hwyrach heddiw beth fydd y cyhuddiadau yn erbyn Silvio Berlusconi.

Mae’n honni bod Silvio Berlusconi wedi talu am ryw gyda Karima el-Mahroug o Morocco, ac yna wedi ymyrryd pan gafodd hi ei rhoi dan glo am ladrad honedig.

Mae’r prif weinidog wedi gwadu’r honiadau ac wedi cyhuddo’r erlynyddion o geisio ei erlid o’i swydd.

Mae’r fenyw, sydd nawr yn 18, yn gwadu iddyn nhw gael rhyw erioed, er ei bod hi’n cyfaddef iddo roi £5,800 iddi.

Mae’n rhaid bod yn 14 oed er mwyn cydsynio i gael rhyw yn yr Eidal, ond mae yn erbyn y gyfraith i dalu i gael rhyw gyda phutain dan 18 oed.

Fe fydd gan y barnwr pum diwrnod i benderfynu a fydd Silvio Berlusconi yn wynebu achos llys ai peidio.