Quetta
Mae gweithiwr dyngarol o Brydain wedi cael ei ladd ym Mhakistan.

Cafodd Khalil Dale, oedd yn gweithio i’r Groes Goch, ei herwgipio ym mis Ionawr eleni. Roedd yn 60 oed ac yn dod o’r Yemen yn wreiddiol.

Cafodd ei herwgipio yn Quetta, yn ne-orllewin Pakistan, ac fe gafodd ei gorff ei ddarganfod mewn bag plastig ar gyrion y ddinas gan yr heddlu.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, ei fod yn condemnio’r herwgipio a’r llofruddiaeth yn llwyr.

“Roedd yn  weithred greulon a ddisynnwyr,” meddai, “yn targedu rhywun oedd yn helpu pobl Pacistan, gan achosi poen dirdynnol i’r rhai oedd yn adnabod Mr Dale.”

Roedd Llywodraeth Prydain wedi bod yn gweithio gyda’r Groes Goch i geisio sicrhau fod Khalil Dale yn cael ei ryddhau’n ddiogel.