Barack Obama
Bydd Barack Obama yn dechrau ei ymgyrch yn swyddogol i gael ei ail-ethol yn arlywydd yr Unol Daleithiau’r wythnos nesaf.

Daw’r rali wrth i Mitt Romney, enwebiad tebygol y Gweriniaethwyr, geisio uno ei blaid ar gyfer y frwydr am y Tŷ Gwyn.

Bydd yr Arlywydd yn dechrau ar ei ymgyrch â chyfres o ralïau ar 5 Mai yn Ohio a Virginia.

Llwyddodd Barack Obama i gipio’r ddwy dalaith yn etholiad 2008, a bydd yn rhaid iddo wneud hynny eto ym mis Tachwedd os yw’n gobeithio cadw ei afael ar y Tŷ Gwyn.

Nawr bod Mitt Romney wedi sicrhau enwebiad y Gweriniaethwyr, all Barack Obama ddim sefyll ar yr ymylon a gwylio ei elynion yn colbio ei gilydd.

Dywedodd swyddogion ymgyrch Obama y bydd yn cymharu ei agwedd ef art yr economi â pholisïau’r Gweriniaethwyr a fu’n gyfrifol, meddai, am chwalu’r economi yn 2008.

Mae gan Obama waith o’i flaen wrth sicrhau cefnogaeth y to ifanc a fu’n asgwrn cefn i’w lwyddiant yn ôl yn etholiad 2008.

Yn 2008, roedd gan Obama fantais o 34 pwynt dros y seneddwr Gweriniaethol, John McCain, ymhlith pleidleiswyr dan 30. Ond mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu y bydd yr arlywydd yn ei chael hi’n anoddach gyda phleidleiswyr ifanc y tro hwn.

Daw hyn wrth i’r gefnogaeth gyhoeddus i Mitt Romney gynyddu hefyd, gyda’i gyn-gystadleuwyr am enwebiad y Gweriniaethwyr, Rick Santorum a nawr, Newt Gingrich, yn datgan eu cefnogaeth iddo.

Mae wedi dod i’r amlwg heddiw fod Newt Gingirch yn bwriadu rhoi’r gorau i’w ras am enwebiad y Gweriniaethwyr.