Mae’r gitarydd Americanaidd Ted Nugent wedi pledio’n euog i gyhuddiad o gludo arth ddu roedd wedi ei ladd yn anghyfreithlon yn Alaska.

Yn ôl dogfennau’r llys, roedd Nugent wedi saethu’r arth yn farw yn anghyfreithlon ym mis Mai 2009 ar Ynys Sukkwan yn ne ddwyrain Alaska ar ôl anafu arth arall wrth hela.

Dywedodd Nugent nad oedd yn ymwybodol ei bod yn erbyn y gyfraith i hela mwy nag un arth yn yr ardal, ac mae wedi ymddiheuro am dorri’r gyfraith.

Cafodd Nugent ei ffilmio’n hela’r eirth ar gyfer ei gyfres deledu Spirit of the Wild ar y sianel Outdoor Channel.

Cafodd Nugent ddirwy o £6,200 a’i roi ar brawf am ddwy flynedd. Yn ogystal, ni fydd yn cael hela na physgota yn Alaska am flwyddyn. Fe fydd Nugent hefyd yn gorfod talu £370 am yr arth gafodd ei gymryd yn anghyfreithlon.