Damascus
Yn ôl adroddiadau yn Syria, mae tri o swyddogion y gwasanaethau cudd wedi eu lladd a nifer wedi eu hanafu ar ôl i fom ffrwydro yn Namascus heddiw.

Fe ffrwydrodd y bom yn ardal Barzeh yn gynnar bore ma. Mae Llywodraeth Syria wedi gwrthod gwneud sylw am y mater.

Mae’r ymosodiadau wedi parhau er gwaetha cadoediad y Cenhedloedd Unedig ddaeth i rym wythnos yn ôl. Mae gwrthryfelwyr wedi cynyddu eu hymosodiadau ar dargedau milwrol er mwyn gorfodi’r Arlywydd Bashar Assad i ildio.

Dywed y Cenhedloedd Unedig bod 9,000 o bobl wedi eu lladd yn Syria ers i’r traferthion ddechrau 13 mis yn ôl.

Yn ôl adroddiadau cafodd 55 o bobl eu lladd ddoe, y rhan fwyaf yn nhalaith Hama yn dilyn ymweliad gan arsyllwyr y Cenhedloedd Unedig.