Anders Breivik
Mae Anders Behring Breivik, y dyn sydd wedi ei gyhuddo o ladd 77 o bobl yn Norwy, yn rhoi tystiolaeth am y tro olaf heddiw.

Dywedodd wrth y llys yn Oslo bore ma bod ei ymosodiadau fis Gorffennaf y llynedd “yn weithred farbaraidd fechan er mwyn osgoi gweithred farbaraidd mwy.”

Mae Breivik eisoes wedi cyfaddef iddo osod bom ger adeiladau’r llywodraeth yn Oslo gan ladd wyth, ac yna saethu’n farw 69 o bobl ar ynys Utoeya.

Mae’n gwadu cyfrifoldeb troseddol am yr ymosodiadau gan ddweud ei fod yn amddiffyn Norwy rhag aml-ddiwylliannedd ac Islam.

Mewn Datganiadau i’r llys mae Breivik wedi dweud ei fod yn “berson neis iawn o dan amgylchiadau normal” a’i fod yn “deall yn iawn” pam fod ei dystiolaeth yn arswydo eraill.

Prif bwrpas yr achos llys yw ceisio darganfod a oedd yn ei iawn bwyll pan gyflawnodd yr ymosodiadau.